Sefydlodd Karen fel gemydd yn 1995, yn wreiddiol o Ynys Môn, ond yn awr yn seiliedig ger Bethesda. Mae gwaith comisiwn yn cynnwys dylunio a chreu’r Goron ar gyfr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1999 a 2008. Y mae hefyd wedi derbyn gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r casgliadau Crater a Tyllu yn seiledig ar y diffiniad o’r gair ‘Tyllu – to hole, bore, perforate, pierce’. Mae trin yr arian yn gorfforol yn ganolog i gynhyrchu’r gwead dwfn. Mae’n ymchwilio i dyllau o fewn ei gwaith gan greu rhywbeth o ddim byd a defnyddio’r twll i gynhyrchu ffurf ac i newid dyfnder a gofod o fewn y darn. Mae’r ffordd hon o weithio’r metal ac adeiladu’r darn yn integrol ac mae’r dyluniadau’n adlewyrchu’r prosesau sydd wedi eu creu.
Ysbrydolwyd y casgliad Trysor gan bethau a ganfuwyd yn y môr, edrych ar ochrau toredig cregyn a thaith cregyn môr draws gwahanol arwynebau. Mae gweld creaduriad newydd yn byw mewn cregyn a adawyd yn cael eu cynrychioli gan gerrig gwerthfawr a lled werthfawr yn meddiannu’r ‘tyllau’ yn y darnau.
c.v.
addysg
BA(Hons) Dylunio 3D, University of Central Lancashire, 1991-1994
BTEC Celf a Dylunio, Coleg Technegol Gwynedd, Bangor 1988-1990
profiad
Hunan gyflogedig – gemydd ers 1995
Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau, darlithydd – TAAU a Cwrs Sylfaen 2000-2006
Coleg Menai, Bangor, darlithydd – HND Crefftau, Cwrs Mynediad, Cwrs Sylfaen, GNVQ a dosbarthiadau nos, 1995–2002
arddangosfeydd
From North Wales with love – The Arc Gallery, Chester, 2013
Disglair – Oriel Ynys Môn, Ynys Môn, 2012
Cofrodd – ACJ Cymru, Gŵyl Dylunio Gaerdydd, Caerdydd, 2012
Cywrain – Galeri, Caernarfon, Gwynedd, 2012
Seren Arian, Crefft yn y Bae, Caerdydd, 2009
Gemwaith Gorau Cymru – Oriel Parc Glynllifon, Gwynedd, 2009
Disglair – Crefft yn y Bae, Caerdydd, 2006
Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon, Aberdare 2006
Goleugylch ar Gemyddion – Canolfan Ucheldre, Caergybi 2003
Arddangosfa Teithio Llyfrgelloedd Gwynedd, 2002
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1999 – Arddangosfa Celf a Chrefft
– Arddangosfa Coleg Menai
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd – foyer showcase exhibition (following short-listed trophy design for Cardiff Singer of the World) 1998
Walker Art Gallery, Liverpool 1994
Birmingham School of Jewellery, Birmingham 1994
New Designers, Business Design Centre, London 1994
dyfarniadau
Prosiect Traeth Linau Llanddwyn– cefnogodd gan Cyngor Celfyddydau Cymru, 2013
Dyfarniad Cymru Greadigol – Cyngor Celfyddydau Cymru, 2003
detholiad o chomisiynau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008 – dylunio a gwneud y Goron, 2008
Eisteddfod Môn 2005 – gwneud y Goron gyda Wil Rowlands, 2005
Eisteddfod Môn 2001 – dylunio a gwneud y Goron, 2001
Gŵyl Cerdd Dant Bangor a’r Cylch – dylunio a gwneud tlysau, 2000
Y Gymdeithas Ddeintyddol – bathodyn anrhydedd arlywyddol, 2000
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1999 – dylunio a gwneud y Goron, 1999
Eisteddfod Môn 1997 – dylunio a gwneud y Goron , 1997