Traeth Linau LLanddwyn/Llanddwyn Shore Lines 13-5-13 tywydd lleol

Dyddiad: 13 Mai 2013 9.30am

Llanw :Trai – 6.15 (1.05m)

Penllanw – 12.06 (4.7m)

Trai – 18.47 (1.2m)

Tywydd: gwyllt, gwynt gryf at y traeth, haul a cymylau

Sylwadau: gwymon yn chwythu i lawr y traeth, cregyn cocos yn rholio i fewn efo’r tonnau, creigiau wylb yn gwisgo’r tywod sych, ewyn yn casglu yn y corneli a chwythu, oedd y gwynt rhy swnllyd i glywed yr adar heblaw yr morwenoliad yn sgrechian – cor mawr ohonyn nhw rwan, potel llefrith ‘Wexford’ hanner llawn – yn Porth Twr Mawr, plucen felen, dail arian a pysen-a-ceirw efo lindysen felyn a ddu llachar drws nesaf iddo, gwylanod cefnddu yn hofran ar yr awyr.

IMG_6754

Weithiau, dwi’n teimlo dwi ond yn edrych ar y llawr am rhyw fath o ysbrydoliaeth ond heddiw, oedd y gwynt ac yr tir yn galw am fy sylw. Oedd yn anodd i gael mymryn o heddwch i chwilio am bethau, efo’r tywod yn hedfan, y gwynt yn rhuo ac yr ewyn yn chwyrlio bob man. Oedd yn wyllt ac yn wych.

Oedd y gwynt yn gyfrifol am lot o’r gwead – cylchau o gwmpas planhigion, tywod yn cotio popeth yn ei ffordd ac wyneb o bwi sy wedi colli ei angorfa.

Y darn o emwaith dwi wedi eu greu tro’ma yw broets, gan ddefnyddio darn o bibell plastig a rhaff sy’n rhaflo. Yr symudiad yn y rhaff yn portreadu’r gwynt ac yr tonnau.

IMG_6888          IMG_6854 (2)

ACW_logo_CMYK_landscape                                              WG_Sponsored_land_col                                        Lottery_landscape_CMYK

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .